Mae pobol Blaenau yn cwyno am law, ond am y tro cyntaf ddim am glaw ym Mlaenau Ffestioniog. “Mae hyn yn ofnadwy” meddai Llion Llaith maer Blaenau Ffestiniog, “Da ni’n enwog am fod y lle gwlypaf yng Nghymru a lle mae o wastad yn bwrw”. Mae glaw trwm yn rhannau eraill o Gymru yn golygu fod modd i bobol gael gwyliau campio ofnadwy mewn mannau fwy cyfleus. “Mae pobol sydd wedi bod yn dod i Flaenau a’r cyffiniau ers blynyddoedd rŵan yn dewis llefydd fel Caersws a Rhiwabon” parhaodd Llion Llaith mewn cagwl glas “Mae’r economi leol yn dibynnu ar pobol sy’n mwynhau cwyno am y tywydd a sy’n casáu awyr las”.

Fe holodd Blolycs ymwelwyr ar y stryd fawr, yn ôl Victoria Sponge o Stoke, sydd wedi bod yn dod i Flaenau ers 1971 gall y newidiadau yn y tywydd dylanwadu ar ei dewis o lle i fynd ar wyliau blwyddyn nesaf… “We’ve been coming here since 1971 and every year the weathers been shit, we love it. Nothing beats setting up tent when its pissing down on a Thursday afternoon and spending two weeks wearing permanently damp clothing and waking up in a puddle of freezing water that’s been filtered through slate waste” Dyweddod ei gwr Alan Sponge “Why come here and enjoy the shit weather when we can now enjoy equally shit weather nearer our own doorstep? We’re thinking of going to Rhosllannerchrhugog next year, we’ve heard it’s a really shit place to go when it’s raining and the locals are hostile to outsiders, which is an added bonus”.

Yn ôl Dan Draed o swyddfa dywydd Dolgellau newid hinsawdd sy’n gyfrifol am y newid. “Newid hinsawdd sy’n gyfrifol am y newid. Am flynyddoedd Blaenau oedd prifddinas gwlypter Cymru ond yn anffodus erbyn heddiw gallwch fod yr un mor gwlyb yn Hwlffordd neu Fflint, dau lle hollol annymunol pan mae’n bwrw”
Mae llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn ffurfio tasglu i weld sut y gallent sicrhau fod ymwelwyr i Blaenau yn dioddef mwy yn y dyfodol, gan gynnwys gwersi anymunoldeb i trigolion y tref.

Gohebydd: PENNY MACHNO

Swydd: GOHEBYDD DYFFRYN CONWY A BITS CYFAGOS

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Trending