Mae nifer o Gymry amlwg a rhai llai amlwg wedi cymryd i Twitter i wyntyllu eu anniddigrwydd yn y ffaith fod neb wedi slagio’r iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol ers dros 48 awr. Mae’r diffyg o negeseuon sarhaus wedi gadael sawl unigolyn yn flin iawn. Yn dilyn ymchwil newyddiadurol trwyadl mae Blolycs Cymraeg wedi darganfod nifer o tweets gan bobol ag am eu dyfynnu gair am air gan esgus bod hyn yn stori o bwys.
Dywedodd Rhodri Brian-Pheltip, wyneb gyfarwydd ar S4C yn y 90’au.
“Mae hyn yn gwbwl warthus, pwy ddiawl di’r Saeson yma sy’n meddwl bod ddim angen sarhau’r Gymraeg yn ddyddiol?”
Dywedodd llefarydd ar rhan Cymdeithas yr Iaith Keith ap Turbot “Dwi heb gweld neb yn gwneud hwyl ar ben y Gymraeg ers o leiaf deuddydd, does neb wedi postio lluniau o arwyddion ffyrdd dwyieithog yn cymharu’r Gymraeg a thin o Alphabetti Spaghetti sydd wedi tywallt ar lawr, yn gofyn os oes cath wedi cerdded ar draws bysellfwrdd laptop neu dweud “someone’s kidnapped all the vowels”. Mae hyn yn sefyllfa annerbyniol. Sut rydym ni fel Cymry yn mynd i llenwi’r oriau di-rif yn ymateb i’r pobol yma”.
Ond gallwn adrodd fod diweddglo hapus i’r stori, yn y munudau diwethaf trydarodd Jack Pritstick o Sir Fôn
“I’m sick and tired of having the Welsh Language forced down my throat, nobody speaks it, yet every job in Wales requires it. This moribund monkey Language costs us taxpayers hundereds of millions a year in road signs alone.
Fe ofynnodd Bolycs Cymraeg am sylw gan y llywodraeth. Doedd neb ar gael i siarad ond gafwyd y datganiad canlynol….
Mae’r llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd cwyno am bobol syn lladd ar y Gymraeg i Gymry ar hyd a lled y gwlad, ac mae’n annerbynniol cael bylchau yn yr amserlen, mewn ymateb i hyn fe fyddwn yn penodi rhywun i lladd ar y Gymraeg yn rheolaidd gan gyfeirio at y Gymraeg yn ddilornus a gwneud sylwadau am cathod yn crwydro ar draws bysellfyrddau…..
Awdur: Ceri Grafu
Swydd: Gohebydd sgandals ieithyddol
Gadael Ymateb