Cyhoeddi erthygl am erthygl
Mae Gwefan wedi cyhoeddi erthygl am erthygl a ymddangosodd ar gwefan arall. Mae’r gwefan lle ymddangosodd yr erthygl gwreiddiol wedi cyhoeddi erthygl am yr erthygl a oedd wedi ei gyhoeddi …
Does dim sicrwydd ynglŷn â phwy yn union yw Bolycs Cymraeg. Cred rhai mai enaid arallfydol sy’n trigo ymysg niwloedd a llynnoedd Eryri ydyw, tra bo eraill yn credu mai gyrrwr lorri canol oed o ochrau Croesollwallt ydi o.
Ond un peth a erys yw’r ffaith nad oes syndod bod cyfraniad Bolycs Cymraeg at ddiwylliant Cymru ac at godi proffeil y wlad ar lwyfan ryngwladol yn cael ei gymharu â’r hyn a gyflawnwyd gan Dylan Thomas, Owain Glyndŵr a Ray Reardon, pencampwr snwcer y byd 1970, 1973, 1974, 1975, 1976 a 1978.
Mae Gwefan wedi cyhoeddi erthygl am erthygl a ymddangosodd ar gwefan arall. Mae’r gwefan lle ymddangosodd yr erthygl gwreiddiol wedi cyhoeddi erthygl am yr erthygl a oedd wedi ei gyhoeddi …
Mae nifer o Gymry amlwg a rhai llai amlwg wedi cymryd i Twitter i wyntyllu eu anniddigrwydd yn y ffaith fod neb wedi slagio’r iaith Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol …
Mae teulu o Loegr wedi datgan eu siom ar ôl dod â gwyliau yn Llandudno i ben yn gynnar… Roedd y teulu Gerrard o Lerpwl wedi bwcio wythnos yn Llandudno …
Dyddiadur dan glo
Ebrill y 7fed
Ma mam yn deud mai sgwennu fa’ma ydi’r ffor’ ora rŵan. Mae’n phythefnos ers i’r terfyn gychwyn, dwi’m yn cofio bellach sut flas oedd ar “bounty” na’r teimlad o cushelle yn sychu bochau fy nhîn. Da ni’n defnyddio hen gopïau nain o Golwg erbyn hyn, dyw’r papur sgleiniog yn dda i ddim wrth frwydro pot nwdl neithiwr. Mae Miss Tomos maths yn byw yn yr un pentre a ni, rhaid dringo i ben y lîn tŵ am 10 bob bore am wers lluosi mae hi’n ei gynnal trwy semaffor. Mae’n gwyliau’r Pasg FfFfS, credu bod hi di colli trac o amser fel pawb arall
ANN BLYDI HYGOEL!!! Pwy sydd newydd lanio drws nesa? Mr a Mrs Thorpe yn ei volvo estate efo llond bŵt o bagiau siopau Waitrose a digon o cushelle i sychu tîn pob un anifail yn sŵ Caer. Wedi cymryd y “B roads” medde nhw. Oedd Mr Thorpe yn y TA’s sdalwm ag yn gwbod sut i yrru tanc heb oleuadau canol nos. “We navigated by the stars and used Cribb Cock as a reference point” medde’r basdyn o Bromsgrove. Mam a fi yn neud planiau i ddwyn o leiaf dwy rôl o cushelle a darn o gaws manchego heno.
Ebrill 8fed
Newydd ddeud wrth mam fod y prif weinidog yn intensif cêr. Hi’n deud fod Toni Blêr yn ddyn clên a dymuno’n dda iddo. Dwi heb deud wrth mam ond nes i lwyddo bachu dwy rôl o Cushelle o garej Mr a Mrs Thorpe, a wedi treulio awran braf yn ymgyfarwyddo bochau fy nhîn efo irresistibly cushiony tissue. Dwi am gadw’r roliau i fi, cyfrinach bach. Mae mam yn sôn bod Morrisons yn dre wedi cael delifyri a sa hi’n lladd am “bounty” a pecyn 4 o bîns heinz. Da ni heb bod yn dre ers i blant y dre meddiannu KFC a rhegi ar Gaynor o’r Siswrn Arian. Dwi di clywed fod y maes fel jyngl erbyn hyn gyda geifr o Llanberis yn rhedeg yn rhemp o amgylch y castell. Mam an blannu tatws heddiw, ond dwi’n amau neith tatws newydd o tin efo sel bai dêt o 2009 dyfu rhyw lawer. Ond fydd nhw’n gwmni da i’r bêcd bîns nath hi blannu ddoe. Dwi off i ben y lîn tŵ efo fy minociwlars, mae Ffion Jones o blwyddyn 11 yn neud Joe Wicks bob bore am 9.
Ebrill y 10fed
Mae mam yn pobi, eto. Cyn y cofid doedd bananas byth yn dod ar gyfyl y tŷ, ond rhywsut ma gyn mam digon o’r bali pethau i neud tair torth o bara blydi banana y dydd. “Oedda nhw yn gefn y frîsyr” ebe mam. Yn ôl pob tebyg oedd am yn casglu’r bananas brown o waelod fy mag ysgol pob dydd ag yn rhoi nhw mewn hen tybiau têc-awê o Winner yn dre ag yn stwffio nhw yn gefn y frîsyr. “Cadw nhw ar gyfer imyrjansi” oedd hi. Dwi’m isio gweld un darn o bara blydi banana byth eto. Mae blawd wedi mynd yn brin, taid yn deud sa fo’n rhatach pobi efo chocên na blawd. Ma taid yn nabod pobol dodji, mae o’n cael dylifari o datws, domestos a pot nwdls heno gyn rhyw foi o Nefyn. Dio’m yn hudnod hoffi pot nwdls. I ben y lîn tŵ am ddeuddeg, mae Ifan “pigo’i dîn” wedi shafio pob blewyn o’i ben, aeliau a pob dim ag mae o am ddangos i bawb. Mae o mond wedi neud o achos mae’n gobeithio nawn ni dechrau galw fo’n Ifan “pen bylb”. Ma gyno fo graith go anffodus o’i dalcen i gefn ei ben, damwain beic pan oedd o’n 4. Siawns go lew fydd ganddo enw newydd ar ôl 12… A ddim pen bylb 😂🛎️🔚
Ebrill y 12fed
Di mam ddim yn dda efo geiriau, mae “coronavirus” yn air rhy hir iddi a mae di galw Covid-19 yn Gofid-Nain Blin o’r cychwyn. Felly “Y Gofid” fydd o hyn allan.
Am noson, mam di bod ar fêsbwc a di dod i llofft i deutha i taw masts 5G sy’n gyfrifol am y gofid, “mae gŵr Karen Spar yn gweithio i Sky a mae o’n dallt y pethe ma”. Dwi’m yn siŵr sut mae gosod dysglau satalait ar ochr tai yn Waunfawr yn ei neud o’n ecspyrt ar unrhyw beth, heblaw gosod dysglau satalait ar ochr tai. Mam yn deud fod criw o Nantlle Vale am ddringo mast Nebo efo pwcad o betrol a bocs o Swan Vestas.
Mae’r tywydd yn braf a dwi medru gweld traeth Niwbwrch yn glir trwy’r binoculars o dô y lîn tŵ. Dwi di gweld Tudur Owen yn torheulo yno tair diwrnod yn olynol, mam yn deud bod o’n “nabod pobol” ar yr ynys so mae o medru mynd â dod fel y myna fo. Mae Ifan Pen Pidyn yn dod draw efo teliffoto lens ei dad i weld os gallwn ni gael llun ohono fo i gwerthu i Golwg.
Ebrill 14eg
Diolch byth am gŵr Karen Spar. Hogia clwb pêl-droed Nantlle Vale wedi llwyddo dringo mast Nebo neithiwr gyda pwced o betrol er mwyn diffodd y “bali 5G na sy’n gyfrifol am y Y Gofid”.
Mae mam yn treulio lot gormod o amser ar Facebook. Llynedd nath Alan Traed sy’n trin carnau nain Rhosgadfan cael “peado” di paentio ar ei ddrws ffrynt ar ôl i rhywun gweld adfyrt yn papur bro Lleu gyno fo yn deud “Alan Jones podiatrist”. Nath yr heddlu gorfod siarad efo Jean Blin ar ôl iddi rhoi ar Facebook fod Alan Traed yn peado a bod o’n adfyrteisio’r ffaith.
Eniwê, y cyfan nath hogia Nantlle llwyddo neud oedd nocio allan S4C, da ni’n stryglo i gael 3G yma heb sôn am 4 neu 5! Aeth Taid Rhosgadfan yn nyts, oedd rhaid iddo fo treulio’r noson yn siarad efo nain yn lle hi’n gwylio rownd a rownd. Nath gŵr Karen Spar dod rownd efo dysgl a bocs spar, mae o am neud ffortiwn penwythnos yma. Mam yn dad bod hi’n ddydd Gwener y Groglith heddiw a bod ganddi syrpreis i fi.
Ebrill 17eg
Oedd na dipyn o olygfa o ben y lîn tŵ neithiwr, oedd yr heddlu di dod o Faesincla i arestio hogia Nantlle Vale am losgi mast Nebo. Amlwg fod canslo gemau oherwydd Y Gofid wedi cael effaith ar ffitrwydd yr hogia. Er y cefnogaeth a pawb yn clapio a gweiddi C’mon Midffild, gafodd Malcolm “dechrau kanu dechrau canmol” ei lorio gan sarjant ifanc ffit oedd wedi ei wisgo mewn siwt hazmat hôm mêd di neud allan o bagiau bin a masg Donald Trump. Nath gweddill y midffild rhoi fyny ger rowndabowt Inigo Jones. Ma nhw di tagio rŵan a ddim yn cael gadael y tŷ am fis. Ddim cweit yn siŵr sut mae hynny’n gosb ar hyn o bryd.
Mae mam yn trefnu helfa wyau Pasg. Does gyno ni ddim wyau Pasg a sgyn mam ddim siwt gwningen, wel mae’n deud bod ganddi ddim ond dwi di gweld lluniau reit dodji ar Facebook yn tŷ nain Rhosgadfan o hi’n gwisgo clustiau a chwnffon cwningen a fawr ddim arall mewn parti ffansi dres yn Sling. Mae hi’n deud bod rhaid impryfeisio mewn argyfwng a mae hi am guddio cerrig wedi peintio rownd yr ardd a mae’n hyderus geith hi gyfle heno i ddwyn un o wyau green & blacks nath y Thorpes dod efo nhw o Waitrose. Mae’n deud fydd y wisg yn syrpreis. I ben y lîn tŵ i weld os di Tudur Owen yn torri’r cyrffiw eto yn padlo lawr y Fenai. Da ni dal i ddisgwyl ateb gyn Golwg am y lluniau natho ni cymryd ohono fo’n torheulo ar draeth Niwbwrch. Ond mae Ifan Pen Pidyn yn meddwl ella gawn ni getawê efo gwerthu nhw o Hello a deud taw Simon Cowell wedi torri ydio.
Ebrill yr 20fed
Ma gyno ni wy Pasg!!! Wel wyau Pasg i fod yn hollol gywir. Chwarae teg i mam, mae na golwg y diawl arni bore ma ond mae’r rŵm ffrynt yn edrych fel y silff speshials sydd drws nesa i’r til yn Spar. Dwi’m yn siŵr sut nath hi lwyddo ond ges i gip arni’n mynd rownd i “dunroamin” tŷ’r Thorpes drws nesa wedi gwisgo fel y cwningen hanner noeth nes i weld ar Facebook yn nhŷ nain Rhosgadfan yn cario potel o’r liqueur hôm mêd mae taid Rhosgadfan yn gael gyn ei ffrind dodji o Nefyn. Gwin tatws mae taid yn ei alw, mae mam yn ei ddefnyddio i llnau’r popty. Eniwê nath hi gyrraedd adre tua saith bore ma efo llond sach o siocled a cushelle.
Mae hi yn y gwely yn chwyrnu rŵan. Am ei fod hi’n ddydd Sul dwi angen llnau cratch y cwningod. Dwi’n deud cwningod ond ma gena’i un gwningen a dau mochyn cwta. Mi oedd gena’i dau o’r ddau ond nath “Hŵ’r” gwningen wen dianc, felly dim ond Gwdi sydd ar ôl. John ac Alun di enwau’r moch cwta. Mam nath enwi nhw, deud bod nhw’n neud y synau mwyaf ofnadwy ag yn “cyfrannu dim at gymdeithas”. Dwi’m yn dallt. Un peth sy’n wir, mae’r bali pethau yn drewi. Oedd Ifan Pen Pidyn yn dod draw i helpu cyn Y Gofid, ond mae mam di banio pawb o’r tŷ rhag ofn iddyn nhw ddod â rhywbeth efo nhw i’r tŷ.
Duw a ŵyr be arall mae hi dod i’r tŷ o “dunroamin” neithiwr.
Ebrill y 23ain
Mae pethau wedi gwaethygu yma diolch i’r locdown. Oedd mam yn fawr o gantores cyn Y Gofid ond nefi wen mae angen mynadd erbyn hyn. Mae hi di darganfod Côr-Ona ar ffêsbwc
Y broblem ydi da ni rioed di bod yn teulu capel so di emynau erioed di bod yn rhan o’i “rep y twâr”, so mae hi wrthi dydd a nos yn recordio fideos o hi’n canu caneuon o’i hoff miwsical. Frozen.
Mae hi di creu geiriau i “Let it go” yn y Gymraeg….”Mae’r eira’n wyn ar strydoedd Llanbêr, does dim fusutors i weld….”. I neud pethau’n waeth ma Rhys Meirion di hoffi un o’i fideos. Ma hyn i hi fel ennill y ruban glas yn y steddfod.
Dwi di trio dringo i ben y lîn tŵ i ddianc rhag y sŵn ond mae’n cario am filltiroedd, ma hyd yn oed y Thorpes drws nesa yn dioddef, mae nhw’n cau’r cyrtans yn ganol pnawn a dwi’n clywed Mrs Thorpe yn gweiddi “oh god, oh god” ar dop ei llais.
Mae’r gwynt di codi heddiw felly diwrnod ar ben y lîn tŵ yn gwylio trampolîns yn fflio tua sir Fôn.
Ebrill 26ain
Y gair ar Facebook, ebe mam, yw fod Eamon Holmes am wahodd midffild Nantlle Vale ar Good Morning Britain i drafod peryglon 5G. Panics mawr trio ffeindio rhywun sy’n dallt Skype, ond oedd tad Ifan Pen Pidyn arfer gweithio yn Barcud so fo di sortio nhw.
Nath fan Tesco cyrraedd tŷ’r Thorpes bore ma, welais i’r bagiau yn cael eu gadael ar y dreif o ben tô y lîn tŵ. Sut ddiawl ma nhw di cael slot, ag i dy Haf ‘fyd. Oedd na dau focs o gwin coch a tri tiwb o KY Jelly, be bynnag di rheina. Mond jeli mefus da ni’n byta yn tŷ ni.
Oedd mam ar ben y lîn tŵ yn canu hen wlad fy nhadau am 8 neithiwr, oedda ni medru clywed Elin Fflur yn canu o ben ei carafán yn glir. Mam am fentro i garej Caeathro i nôl pringles, bounty a lagyr nes mlaen. Essential shopping medde hi…..
Mai y 1af
Newyddion da, mae Bryn Terfel wedi deffro o’i drwmgwsg, y newyddion drwg mae’n argyhoeddedig taw Meatloaf ydio ag yn canu bat out of hell ar dop ei lais o ben ei ail fin yn Bontnewydd. Mae’r heddlu acw efo corn siarad yn trio gael o i ddod lawr a bod yn ddistaw, mae’n “fygythiad i ddiogelwch cymunedol” medde nhw. Mae boi’r RSPCA ar ei ffordd draw efo’i gwn trancwilaisyr, eto.
Mae mam di llwyddo cael slot dilifyri o Tesco wedi tair wsos o trio, mae’n fel bod hi’n siopa ar gyfer Dolig, ma hi di ordro twrci a ddim yn deallt pam bod gyno nhw ddim cracyrs ar werth. Hyd yma ma hi di ordro 3 twb o celebrations, 3 twb o heroes, 3 twb o roses a thwrci. Di hi’m yn hudnod licio twrci.
Mam dal yn gandryll bod y Thorpes heb ddod allan i glapio am 8 nos Iau, natho ni clapio o ben y lîn tŵ, oedd y cyrtans di cau drws nesa. Mam yn deud bod neb yn mynd i gwlâu cyn 8 yn y nos, ond nes i egluro bod nhw yn y gwely pob dydd am dri yn neud cwis, “you’re an animal, you’re an animal” medde hi, ond di Mr Thorpe byth yn datgelu pa fath o anifail ydio.
Mai 4ydd
Dwi nôl yn yr ysgol, na ddim ysgol go iawn ond ysgol mam, mae mam yn dilyn cwricwlwm gwahanol i weddill Cymru. Natho ni gychwyn efo Joe Wicks, a gwersi ukulele Mei Gwynedd a nath mam seinio fi fyny ar gyfer peth maths Carol Vorderman ond nath hynny para tua 3 diwrnod. Mae mam yn deud taw “life skills sy’n bwysig” a wedi penderfynu dysgu fi yn bêsd ar be mae’n darllen a gweld ar Facebook. A’r “life skills” nath hi ddysgu gyn taid Rhosgadfan. Dwi hanner ffordd drwy adeiladu cwt bambŵ yn y nant sy’n rhedeg drwy waelod yr ardd a di creu trap bysgod allan o hen potel Pepsi max. Hwyrach ymlaen mae mam yn mynd i ddysgu fi sut mae neud “scinfêd”, druan a Gwdi y gwningen mae hi di cael pob steil sy’n mynd, diolch byth bod y tywydd yn cynhesu.
Mai y 6ed
Mae’n ddydd Gwener heddiw, nes i glywed pobol yn clapio neithiwr o ben y lîn tŵ. Dyma sut da ni’n cofnodir dyddiau erbyn hyn. Dwi di anghofio erbyn hyn sut deimlad oedd codi am 7, gwisgo gwisg ysgol, bwyta 2 weetabix a cerdded am y bws ysgol efo Ifan Pen Pidyn. Natho ni dechrau neud Joe Wicks bob bore am 9, gwersi ukulele efo Mei Gwynedd a maths efo Carol Vorderman. Erbyn heddiw dwi’n codi efo sŵn yr adar, cael pizza oer i frecwast, ac mae mam yn cyfri minecraft fel rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Mae mam yn deud bod hi’n “mynd yn ôl i natur”, mae hi di rhoi stop ar shafio’i choesau a ma’i mwstash yn neud hi edrych fel Freddie Mercury. Fe ddaw eto haul ar fryn meddai mam, dwi’n gwerthfawrogi pob dydd o heulwen bellach.