Oedd na dipyn o olygfa o ben y lîn tŵ neithiwr, oedd yr heddlu di dod o Faesincla i arestio hogia Nantlle Vale am losgi mast Nebo. Amlwg fod canslo gemau oherwydd Y Gofid wedi cael effaith ar ffitrwydd yr hogia. Er y cefnogaeth a pawb yn clapio a gweiddi C’mon Midffild, gafodd Malcolm “dechrau kanu dechrau canmol” ei lorio gan sarjant ifanc ffit oedd wedi ei wisgo mewn siwt hazmat hôm mêd di neud allan o bagiau bin a masg Donald Trump. Nath gweddill y midffild rhoi fyny ger rowndabowt Inigo Jones. Ma nhw di tagio rŵan a ddim yn cael gadael y tŷ am fis. Ddim cweit yn siŵr sut mae hynny’n gosb ar hyn o bryd.
Mae mam yn trefnu helfa wyau Pasg. Does gyno ni ddim wyau Pasg a sgyn mam ddim siwt gwningen, wel mae’n deud bod ganddi ddim ond dwi di gweld lluniau reit dodji ar Facebook yn tŷ nain Rhosgadfan o hi’n gwisgo clustiau a chwnffon cwningen a fawr ddim arall mewn parti ffansi dres yn Sling. Mae hi’n deud bod rhaid impryfeisio mewn argyfwng a mae hi am guddio cerrig wedi peintio rownd yr ardd a mae’n hyderus geith hi gyfle heno i ddwyn un o wyau green & blacks nath y Thorpes dod efo nhw o Waitrose. Mae’n deud fydd y wisg yn syrpreis. I ben y lîn tŵ i weld os di Tudur Owen yn torri’r cyrffiw eto yn padlo lawr y Fenai. Da ni dal i ddisgwyl ateb gyn Golwg am y lluniau natho ni cymryd ohono fo’n torheulo ar draeth Niwbwrch. Ond mae Ifan Pen Pidyn yn meddwl ella gawn ni getawê efo gwerthu nhw o Hello a deud taw Simon Cowell wedi torri ydio.