Mae rhywun sydd wedi deud rhywbeth dadleuol am Gymru ar Twitter wedi dileu’r neges. Yn ôl pobol a welodd y neges cyn iddo gael ei ddileu roedd y sylw yn ddadleuol iawn, “pa hawl sydd gan yr unigolyn yma i ddeud rhywbeth dadleuol am Gymru ar Twitter?” meddai Llewelyn Ap Llywarch sydd â darlun o Owain Glyndŵr fel ei avatar Twitter “Dwi’n flin iawn am y peth ac mi fyddai’n sgwennu am y peth a’i gyhoeddi ar y we”.

Mae pobol sydd heb weld y neges hyd yn oed mwy blin, yn ôl Modlen Bassett o gymdeithas yr iaith “mae hyn yn enghraifft arall o rywun yn deud rhywbeth dadleuol am Gymru cyn ei ddileu wedi i lwyth o bobl gwyno”. Rydym wedi casglu llwyth o screengrabs o bobl yn cwyno am y neges a gafodd ei ddileu ac fe fyddwn yn eu cyhoeddi yn y man mewn erthygl arall dan deitl bachog.

Gohebydd: Keith Bolycs

Swydd: Gohebydd Cyfryngau

Gwefan: https://www.ko-fi.com/bolycs