Mae tîm Cymru wedi mynd allan o gwpan y byd “Hide and Seek 2020” heb hyd yn oed dechrau ar yr ymgyrch.
Roedd Cymru’n cael ei cynrychioli gan ddafad mynydd Cymreig o Flaengarw yng nghwm Garw ger Pen y Bont ar Ogwr, ond yn ystod sesiwn ymarfer nath y ddafad neud job mor dda o guddio bod neb wedi medru ffeindio hi.

“Un munud oedd hi yna a’r eiliad nesa oedd hi di diflannu” Meddai Huw Deeney hyfforddwr tîm Cymru, “mae’n siom enfawr, oedda ni’n gobeithiol iawn am ein rhagolygon. Oedd Dwynwen y ddafad di bod yn ymarfer yn dda ond dwi’n meddwl bod hi di picio’n rhy fuan. Os sa hi di dangos y fform yma yn Azerbaijan wythnos nesa sa ni di cyrraedd y rowndiau derfynol am y tro cyntaf erioed.

Gohebydd: Dan Domen

Swydd: GOHEBYDD CHWARAEON A FFERMIO