Mae dynes o Porthmadog wedi cael signal ar ei ffôn trwy O2 yn Llanfrothen. Daeth y newyddion fel sioc enfawr i drigolion y pentref. Roedd y dynes, sydd wedi gofyn i ni gadw ei enw yn anhysbys, yn ymweld a ffrind yn Llanfrothen pan gafodd hi galwad ffôn gan ei mam yn holi pryd fydda’i adre ar gyfer te, ag os oedd hi eisiau sglodion, ag oes oedd hi, a fydda’i yn cael darn mawr o cod iddi, dim halen lot o fineg. “O’n i’n ymweld a ffrind yn Llanfrothen pan nath y ffôn canu” meddai Gwyneth Roberts 23, o 36 stryd y capel, Porthmadog, “O’n i’m yn gwybod be i neud, o’n i’n meddwl taw sgam oedd o, ond pan nes i ateb mam oedd yna yn gofyn pryd o’n i’n dod adre i de ag os o’n ishio sglodion i fi gael darn mawr o cod iddi, dim halen lot o fineg”
Fe geisiwyd gysylltu O2 ar gael rhoi sylw ond yn anffodus doedd dim signal ar gael.
Awdur: Dan Gynnig
Swydd: Gohebydd Port