Mae cyngor plwyf Nefyn wedi mynd cam ymhellach na sawl cyngor cymunedol yng Nghymru trwy datgan annibyniaeth llawn. Dywedydd arlywydd newydd Nefyn, Nan Horon “Da ni di cael llond bol ar y nonsens yn San Steffan y diffyg gweithredu yn y bae ag agwedd trigolion Morfa Nefyn ac Edern, felly oedd o’n neud synnwyr cyffredin cymryd y cam yma”

Lleoiad dros dro senedd gweriniaeth Nefyn fydd y Spar ar y ffordd allan o Nefyn ar yr A497.

“Oedd y Spar yn neud sens” medda’i Bryn Cynan, prif weinidog Nefyn, “Mae pawb yn mynd yna i neud y lotri a da ni’n codi treth o 10 ceiniog ar pob tocyn, 20 ceiniog pan mae jacpot y Euro Millions dros £100,00,000. Da ni fel gwlad yn buddsoddi £10 mewn lucky dips pob tro ma nae Jacpot mawr.

Ond dyw’r penderfyniad heb mynd lawr yn dda efo pawb. “Mae pob dim yn mynd i Nefyn yn dydi?” oedd ymateb Gwen Sglods o Morfa Nefyn, “Da ni gorod mynd i Nefyn i nol loteri, a pan mae’r Euro Millions werth neud a ma’r jacpot dros £100,000,000 ma nhw’n codi tacs o 20c sy’n talu am siampŵ a set y Nan Horon yna”

A dyw ymwelwyr ddim yn hapus chwaith “We used to love coming to Neffin but now they search our car at the border by the Aberafon Caravan park” meddai Keith Curle o West Bromwich “They’ve put tarrifs on everything, only last week they confiscated a box of Crunchy Nut Cornflakes saying that only the president of Neffin was allowed to eat them now”

Doedd neb o llywodraeth Cymru na chlwb golff Nefyn ar gael i rhoi sylw.

Mae’r gwaith i adeiladu maes awyr newydd off stryd y llan wedi dechrau gyda’r gobaith o agor yn 2025 gan gysylltu Nefyn a Efrog Newydd.

Awdur: Gwyn Galchu

Swydd: Gohebydd Gwleidyddol