Mae teulu o Loegr wedi datgan eu siom ar ôl dod â gwyliau yn Llandudno i ben yn gynnar…
Roedd y teulu Gerrard o Lerpwl wedi bwcio wythnos yn Llandudno 6 wythnos yn ôl gan ddisgwyl y byddai gwyddonwyr o Gymru wedi darganfod brechlyn (vaccine i chi o glwyd) yn erbyn Cofid un deg naw erbyn iddynt gyrraedd.
Roedd y teulu wedi ei synnu cyn lleied o bobol oedd i weld ar y strydoedd. “We come to Klandidknow every year and it’s usually wall to wall with angry pensioners waving copies of the daily mail queuing for afternoon tea, but this year it was like a ghost town ”
Roedd y teulu wedi ceisio ymweld â nifer o atyniadau lleol dim ond i ddarganfod fod popeth wedi cau.
“We nipped to Conway but the castle was shut, we tried to go up snowdon but couldn’t find anywhere to park, and when we got back to the hotel a family of goats had taken up residence in our en-suite ”
“We nipped to Conway but the castle was shut, we tried to go up snowdon but couldn’t find anywhere to park, and when we got back to the hotel a family of goats had taken up residence in our en-suite
Roedd llefarydd o’r bwrdd twristiaeth lleol wedi synnu ag ymateb y teulu “Be ffwc oedda nhw’n disgwyl yng nghanol pandemic sy’n medru lladd pobol dros 70? Mae pawb dros 70 wedi bod dan glo ers mis Mawrth acw, ac mae hynny’n tua 90% o’r poblogaeth. Tro nesa ga’i awgrymu bod nhw’n mynd i Blacpwl, a ga nhw gwyno am yr union sefyllfa yn fanna”
Doedd dim gafr yn fodlon siarad efo ni.
Awdur: Mostyn Crescent
Swydd: Gohebydd twristiaeth a Rhyl