Mae Gwefan wedi cyhoeddi erthygl am erthygl a ymddangosodd ar gwefan arall. Mae’r gwefan lle ymddangosodd yr erthygl gwreiddiol wedi cyhoeddi erthygl am yr erthygl a oedd wedi ei gyhoeddi gan y gwefan arall am eu erthygl nhw.

Dyw’r gwefan a gyhoeddodd yr erthygl yn trafod yr erthygl gwrieiddiol heb ymateb i’r erthygl am ei erthygl nhw eto.

Roedd cryn ymateb i’r erthygl am yr erthygl, Yn ol Cadach ap Siencyn, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Epsom South yn etholiad cyffredinol 2019, roedd yr erthygl am yr erthygl wedi dangos fod “Erthyglau am erthyglau yn creu cryn ymateb gan y cyhoedd”.

Yn ôl Peredur ab Gwanc uwch ymchwilydd gyda’r Sefydliad ar gyfer Trethdalwyr Cymraeg roedd yr erthygl am yr erthygl yn gwarantu erthygl mewn ymateb.

“Rydym fel cynrychiolwyr pobol Cymru wedi cael llond bol o erthyglau am erthyglau sy’n ceisio dangos cyfeiriad gwhanol i Gymru o fewn ymerodraeth Brydeinig sy’n ceisio gwella safon bywyd pobol sy’n byw ym Mro Morgannwg”

Doedd Peredur ddim yn fodlon datgelu pwy sy’n arianu’r sefydliad.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae’r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .

Trending